English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Adeiladwaith

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Chloe Bidwell

 
 
 
 

Chloe Marie Bidwell 28/07/2005 - 20/12/2023

Rydyn ni’n rhannu’r fideo hwn gyda chaniatâd teulu Chloe yn y gobaith y bydd pobl ifanc eraill, yn enwedig merched a genod ifanc, yn cael eu hysbrydoli i ddilyn ei hesiampl i’r diwydiant adeiladu.

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Dylan Rhys Court

P & K joinery Ltd

Penderfynodd y cogydd hyfforddedig Dylan Court i newid ei yrfa yn gyfan gwbl pan yn 30 oed, gan ddefnyddio’r sgiliau roedd wedi eu hennill yn ystod ei Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Coed Safle i adnewyddu ei gartref.

Cwblhaodd ei brentisiaeth yn gynt na’r disgwyl, gan gynhyrchu gwaith o safon uchel yn gyson, ac mae’n gweithio fel saer gyda P & K Joinery erbyn hyn.

Enillodd ei gymhwyster Iechyd a Diogelwch gyda llwyddiant ysgubol yn y flwyddyn gyntaf, gyda’i blentyn cyntaf yn cael ei eni yn yr ail flwyddyn. Fel saer cymwys, mae’n aml yn cefnogi prentisiaid pan maent yn gweithio gydag ef erbyn hyn.

Chloe Bidwell

Varcity Living

Mae Chloe Bidwell yn chwifio’r faner dros weithwyr adeiladu benywaidd, wedi iddi ennill medal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, ac mae wedi cymryd rhan yn rownd derfynol adran saernïaeth y CITB Go Construct UK yn 2023.

Wedi ennill Prentisiaeth Sylfaen mewn Saernïaeth, mae nawr wedi symud ymlaen i brentisiaeth, ac yn cael ei disgrifio gan Grŵp Llandrillo Menai fel “model rôl ardderchog” ar gyfer y diwydiant.

Er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i fenywod yn y diwydiant adeiladu, ble mae’r mwyafrif yn ddynion, mae Chloe wedi ymddangos ar y radio a’r teledu. Mae ei chyflogwr cefnogol yn dweud bod Chloe yn weithiwr ardderchog ac yn gyflogai cyfrifol ac ystyriol.

Elliot Parry

GILKS

Disgrifwyd Elliot Parry gan aseswr nwy annibynnol fel un o’r dysgwyr mwyaf rhagorol a hyderus y mae erioed wedi ei asesu.

Cafodd ei wobrwyo am ei ymroddiad trwy gwblhau ei Brentisiaeth mewn Peirianneg Plymio a Nwy, a hynny i safon uchel. Mae wedi parhau gyda’i ddysgu trwy ychwanegu cymwysterau pellach.

Mae ei swyddog hyfforddi’n rhagweld y bydd Elliott yn symud ymlaen i fod yn arweinydd ac yn ddyn busnes llwyddiannus.

Dywedodd ei gyflogwr, GILKS, ei fod yn ased i’r busnes, yn chwaraewr tîm, yn rhoi’r cleientiaid yn gyntaf ac â dyfodol disglair o’i flaen.


 
 

Noddwr y Wobr

Rehau logo

Mae Rehau wedi sicrhau llwyddiant ar sail datblygu ei weithwyr, yn enwedig ei brentisiaid. Rydym yn cefnogi prentisiaethau gan wybod ein bod yn datblygu'r cyflenwad o unigolion sy'n perfformio ar y lefel uchaf yn ein cwmni ac yn y gymuned leol. Rydym yn rhoi'r cydbwysedd cywir o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau iddyn nhw i'w gwneud yn weithwyr cyflawn a darpar arweinwyr, sy'n gwarantu llwyddiant i ni oll yn y dyfodol.