English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Gofal Plant

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Carys Nelan Ponsonby

 
 
 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Kelly Pickering

Bodnant Bach Fun Club

Llwyddodd y dysgwr aeddfed Kelly Pickering i oresgyn ei nerfusrwydd cychwynnol am ddechrau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Chwarae i ddod yn gefnogaeth enfawr i weddill y tîm yng nghlwb hwyl Bodnant Bach Fun Club.

Yn awyddus ac yn llawn cymhelliant, cyrhaeddodd yr holl dargedau sy’n gysylltiedig â’r brentisiaeth gan ofyn am fwy yn aml er mwyn ei galluogi i gadw ar ben ei llwyth gwaith a bywyd teuluol prysur.

Mae ei hunan-hyder wedi tyfu a disgrifir hi fel bod yn “anhygoel” gan ei chydweithwyr, sy’n edmygu ei hagwedd gryf at waith. Mae Kelly yn mynd tu hwnt i sicrhau fod yr holl blant yn ei gofal yn hapus a’u holl anghenion yn cael eu diwallu.

Janey Maggs

Babinogion Menai Day Nursery

Wedi ei diswyddo o’i rôl rheoli manwerthu yn ystod y pandemig, dewisodd Janey Maggs i newid cyfeiriad gyrfa.

Ymunodd ar ymgyrch recriwtio gan y National Day Nurseries Association wrth ystyried gofal plant fel gyrfa.

Datblygodd gyfnod ar leoliad ym Meithrinfa Babinogion Menai Day Nursery i mewn i gyflogaeth a cyflawnodd Brentisiaeth Sylfaen mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae wedi symud ymlaen i brentisiaeth erbyn hyn.

Mae Janey wedi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o sut i gefnogi addysg gynnar plant a dulliau ymddygiad cadarnhaol, ac mae hi’n hapus i’w rhannu gyda’i chydweithwyr. Mae hefyd wedi dysgu i siarad Cymraeg.

Mae hi bellach yn cael ei hystyried fel aelod “anhepgor” a rhagweithiol o’r tîm ac yn fodel rôl positif.

Carys Nelan Ponsonby

Cylch Meithrin Llanerchymedd

Ers cyflawni Prentisiaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant mae Carys Ponsonby wedi cael dyrchafiad i fod yn ddirprwy arweindd yng Nghylch Meithrin Llanerchymedd.

Mae Carys yn gweithio’n agos gyda’r arweinydd Anne Williams i redeg y cylch, gan ddarparu’r plant gyda chyfleoedd chwarae a dysgu. Cafodd eu gwaith caled ei wobrwyo yn 2023 pan enillodd y cylch wobr Cylch Meithrin Y Flwyddyn, y Gogledd Orllewin gan y Mudiad Meithrin.

Dechreuodd ar ei phrentisiaeth cyn y pandemig gan gwblhau ei gwaith i gyd ar-lein nes codwyd y cyfyngiadau. Mae’n angerddol am ei rôl, ac mae canmoliaeth i Carys am ei hagwedd gryf at waith, a’i hymrwymiad i ofal plant a’r plant yn ei gofal.

Mae wedi dechrau cymhwyster Rheolaeth ac Arwain, sy’n dangos ei hymroddiad i wella’n gyson ac i feddwl am syniadau arloesol i ddatblygu’r cylch er budd y plant.