English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Trin Gwallt a Harddwch

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Natasha Locke

 
 
 
 

Llongyfarchiadau Natasha

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Natashia Locke

M J Hair Salon

Mae’r prentis Natashia Locke wedi derbyn rôl fentora yn M J Hair Salon i rannu ei sgiliau a’i gwybodaeth ar ôl ennill ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt.

Mae Natashia’n mentora ac yn ysbrydoli dysgwyr newydd yn y salon tra hefyd yn helpu i adeiladu’r busnes gyda’i rhestr gynyddol o gwsmeriaid.

Mae hi wrth ei bodd yn dysgu sgiliau newydd ac ma’i hasesydd yn canmol safon ardderchog ei gwaith ymarferol ac ysgrifenedig a’i lefel uchel o gymhwysedd. Mae hi’n gosod nodau personol iddi hi ei hun ac yn ymdrechu’n barhaus i ragori arnynt.

Mae cyflogwr Natashia'n canmol ei hagwedd tuag at ddysgu, ei hagwedd bositif at waith a’i gwaith tîm, gan ychwanegu ei bod wedi dod yn “steilydd hyderus a thalentog”.

Eirian Edwards

Beauty with Eirian

Ei diswyddiad yn 2017 oedd y cychwyn i’r daith ddysgu sydd wedi gweld Eirian Edwards yn llwyddo gyda chyfres o gymwysterau ac yn dechrau ei busnes therapi harddwch ei hun.

Mae wedi cwblhau Prentisiaethau mewn Therapi Harddwch Lefelau 2 a 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai ac, erbyn hyn, wedi ymgeisio am radd PGCE gyda’r nod o ddod yn diwtor yn y dyfodol.

Mae’n cyfuno rhedeg ei busnes ei hun gyda bod yn fam i ddau yn eu harddegau sydd ar y sbectrwm awtistig ac yn canmol y gefnogaeth a’r annogaeth mae hi wedi ei dderbyn gan ei hasesydd, Elin Parry.

Mae wedi mwynhau pob rhan o’i siwrnai ddysgu sydd wedi cryfhau ei sgiliau, ei gwybodaeth a’i hyder. Mae wedi cwblhau cymwysterau Trin Gwallt, Therapi Tylino Chwaraeon, Technoleg Ewinedd a Thrydanol i’r Wyneb ac yn edrych ymlaen i rannu ei hangerdd am bopeth sy’n ymwneud â therapi harddwch fel tiwtor yn y dyfodol.

Connor, Barbering Apprentice

Conner Childes

Koala. T Barbers

Mae ymroddiad ac angerdd y barbwr Conner Childes i ddysgu yn esiampl disglair i’w gymheiriaid a’i gydweithwyr.

Mae Conner wedi creu argraff ar ei asesydd a’i gyflogwr gyda’i agwedd, ei sgiliau gwych a’i frwdfrydedd tra’n cwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen mewn torri gwallt, a hynny yn gynt na’r disgwyl. Mae’n symud ymlaen i brentisiaeth erbyn hyn.

Mae ei sylw i’r manylion a safon uchel ei waith wedi sicrhau sylfaen dda o gleientiaid iddo ac wedi arwain i’r salon yn symud i eiddo mwy. Mae hefyd yn cefnogi ac yn annog ei gyfoedion yn Grŵp Llandrillo Menai.

Mae dyfodol disglair o’i flaen fel barbwr, ac mae Conner yn gwerthfawrogi adborth gan ei gydweithwyr wrth iddo ymdrechu i barhau i ddysgu ac i wella.

 
 

Noddwr y Wobr

The Imperial Hotel logo