English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Lletygarwch

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Joshua Jamie Thyer

 
 
 
 

Llongyfarchiadau Josh!

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Emma Muir

Trearddur Bay Hotel

Er iddi ddioddef gyda salwch difrifol sydd wedi golygu arhosiadau hir yn yr ysbyty, mae Emma Muir wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Lletygarwch ddechreuodd hi yng ngwesty’r Trearddur Bay Hotel yn 2020.

Derbyniodd Emma ganmoliaeth am ei hymroddiad i’w datblygiad personol pan roedd hi’n wynebu salwch parhaus.

Pan mae’n teimlo’n ddigon da, caiff ei chroesawu yn ôl i’r Trearddur Bay Hotel gan ei rheolwr cefnogol James Harper ar gyfer shifftiau byr.

'Mae Emma wedi bod yn rhan enfawr o’n gwesty ers blynyddoedd lawer a bu’r newyddion am ei salwch yn ergyd galed i ni ac iddi hithau,” meddai James. “Roedd gweld Emma’n dychwelyd eleni gyda’r ysgogiad a’r angerdd i barhau gyda’i datblygiad hi ei hun, tra’n brwydro’n erbyn y salwch hwn yn anhygoel. Mae’n dangos y math o berson ydi hi – ased enfawr i’r gwesty a’r teulu hwn.”

Joshua Jamie Thyer

Cues Sports Bar, Abergele

Ymunodd y cyn chwaraewr dartiau proffesiynol ifanc Joshua yn y Cues Sports Bar, yn Abergele fel gŵr ifanc 18 mlwydd oed swil oedd yn dymuno adeiladu gyrfa yn y fasnach drwyddedig.

Daeth ei sgiliau dartiau i’r amlwg pan ddaeth yn rhan o’r Academi Ddartiau ble daeth yn un o’r prif chwaraewyr cyn i gyflwr a enwir yn ‘dartitis’ gael effaith andwyol iawn ar ei berfformiad.

Rhoddodd berchennog y Cues Sports Bar y cyfle i Joshua i weithio tuag at y Dystysgrif lefel 2 BIIAB mewn Sgiliau a Gweithrediadau Lletygarwch Trwyddedig i ehangu ei wybodaeth.

Roedd Joshua’n awyddus i ddysgu o’r cychwyn un ac, yn ystod cyfnod y cymhwyster, mae wedi datblygu i fod yn ŵr ifanc hyderus sy’n cymryd balchder yn ei waith ac yn croesawu heriau newydd. Gadewir Joshua i ofalu am y lle pan fydd perchennog y bar i ffwrdd erbyn hyn.


Sophie Rowe

Gaerwen Arms

Mae Sophie Rowe yn un o gogyddion ifanc mwyaf rhagorol Cymru, sydd wedi datblygu ei sgiliau o dan oruchwyliaeth Andrew Tabbener yn y Gaerwen Arms, Gaerwen.

Dewisodd i gymryd rhan yn ei chystadleuaeth gyntaf yn rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog Cogydd Cenedlaethol Cymru yn 2023 ble roedd yn cystadlu’n erbyn rhai o brif gogyddion Cymru, gan orffen yn ail tra’n dal yn brentis.

Aeth ymlaen i gwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol mewn steil ac mae’n rhedeg ei busnes ei hun erbyn hyn.

Dywedodd ei hasesydd Tony Fitzmaurice ei fod yn teimlo ei bod wedi bod yn fraint i fod wedi bod yn rhan o siwrnai Sophie o fod yn brentis swil i fod yn gogydd cymwys sy’n ysbrydoliaeth i eraill.

“Mae Sophie’n arwain y ffordd i gogyddion benywaidd rhagorol, ifanc, newydd, nid yn unig yn y gogledd, ond yng Nghymru gyfan”, meddai, gan ychwanegu, “Mae hyn wedi ei gyflawni drwy ei hangerdd am y gwaith a’i phenderfyniad i ddysgu ac i fod yn well.”

 
 

Noddwr y Wobr

Snowdonia Hospitality & Leisure logo

Ers dros hanner can mlynedd rydym wedi rhedeg busnes lletygarwch teuluol sydd wedi ennill gwobrau lawer. Mae ein tri gwesty: Gwesty'r Waterloo, Gwesty'r Royal Oak a'r Stables Lodge i gyd wedi'u lleoli ym Metws-y-coed. Rhwng y tri gwesty mae yna bum bwyty, tri bar, mannau bwyta awyr agored, sba a chyfleusterau ffitrwydd a hamdden.

Mae ein gwerthoedd yn greiddiol i'r hyn rydym yn ei gynnig sef cynnyrch lleol a thymhorol a ddarperir gan dîm gwych sy'n cynnwys llawer o staff sydd wedi gweithio i ni ers dros bymtheg mlynedd. Rydym yn buddsoddi yn sgiliau a datblygiad ein gweithwyr trwy dalu am gyrsiau, cynnig prentisiaethau a darparu gyrfaoedd sydd â llwybrau dilyniant pendant.