English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Diwydiannau'r Tir

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Carys Beamish

 
 
 
 

Llongyfarchiadau Carys

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Alice Davies

Cater Vets, Llandudno

Dechreuodd Alice Davies ar gwrs nyrsio milfeddygol yn ystod cyfnod heriol y pandemig Covid-19, a dangosodd ei hymrwymiad trwy gwblhau ei holl asesiadau ar-lein, a hynny i safon uchel.

Wedi iddi weithio’n galed i addasu i’r sefyllfa newidiol, cymhwysodd Alice fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig gyda merit, gyda’i swyddog hyfforddi’n dweud ei bod wedi bod yn “bleser gwirioneddol” i’w haddysgu.

Disgrifiodd ei chydweithiwr a’i mentor yn Cater Vets, Amy Revell, Alice fel “RVN eithriadol”, gan ddweud bod ei hyder a’i gwybodaeth wedi tyfu o ganlyniad i’w hymroddiad a’i hangerdd trwy gydol cyfnodau anodd a heriol.

Mae’n gweithio fel eiriolwr ar gyfer ei chleifion a’i chydweithwyr, yn dod â sirioldeb a phositifrwydd i’r practis ac yn ffynnu wrth nyrsio anifeiliaid yn ôl yn iach yn dilyn llawdriniaeth a salwch.

Ers iddi gymhwyso, mae Alice wedi parhau i geisio heriau newydd ac i wella ei gwybodaeth er budd y cleifion.

Carys Beamish

Cibyn Vets, Caernarfon

Disgwylir bethau mawr i Carys Beamish sydd wedi cymhwyso fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig yn Cibyn Vets yng Nghaernarfon.

Er ei hymagwedd hamddenol tuag at adolygu, mae’n amlwg yn adnabod ei phwnc gan ei bod wedi cyflawni dros 90% ym mhob un o’i chanlyniadau arholiad ysgrifenedig, gyda’i haseiniadau wedi eu cwblhau i safon uchel.

Bu’r gefnogaeth gan y practis a’i swyddog hyfforddi yn gymorth iddi i adeiladu ei hyder yn ei sgiliau ymarferol, ac fe gwblhaodd ei chymhwyster gyda merit.

Disgrifir Carys fel ychwanegiad gwych i’r tîm milfeddygol sy’n nodi ei hagwedd bositif, ei hagwedd wych tuag at waith a’i pharodrwydd i gymryd cyfrifoldeb ac i helpu cydweithwyr.

Mae ganddi ddiddordeb mewn maeth, mae wedi cyflawni llwyddiannau gydag anifeiliaid anwes yn colli pwysau mewn clinigau pwysau, a hi yw’r nyrs i fynd ati ar gyfer microsgopeg. Dywedodd y prif nyrs filfeddygol Cherise Hunt fod “Carys yn sicr o fynd ymlaen i wneud pethau mawr, ond mae’n nyrs filfeddygol gymwys gwych yn barod.”

Alexandra Anwyl

Rhianfa Vets, Y Rhyl

Mae Alex Anwyl wedi gallu jyglo bywyd teuluol, gwaith ac astudio i gymhwyso fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig yn Rhianfa Vets, Y Rhyl, ble derbyniodd brofiad ymarferol cyn hynny.

Roedd ei phrofiad blaenorol yn help iddi wrth fynd i’r afael â’r llwyth gwaith ac fe weithiodd yn agos gyda’r prif filfeddyg a pherchennog y clinig i weithredu strategaethau newydd . Erbyn hyn mae’n helpu myfyrwyr nyrsio eraill i wireddu eu breuddwydion yn y clinig.

Mae ei diddordeb yn y gwyddorau meddygol anifeiliaid diweddaraf wedi dod â’r protocolau diweddaraf i’r practis ac mae wedi ymgeisio i Brifysgol Glasgow i astudio ar gyfer MSc Ymarfer Uwch mewn Nyrsio Milfeddygol.

Disgrifiodd John Hickerton o Rhianfa Vets Alex fel “rhan gwerthfawr” o’r tîm, gan ganmol ei thosturi, ei charedigrwydd, ei hamynedd, ei gwybodaeth, a’i gofal o’r anifeiliaid a’r cleientiaid.

 
 

Noddwr y Wobr

Ifor Williams Trailers logo

Mae Ifor Williams Trailers yn fusnes teuluol, a ddechreuodd yng ngogledd Cymru dros 65 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn maent yn cynhyrchu trelars o ansawdd uchel ar bum safle gwahanol, yn cyflogi dros 600 o weithwyr, ac wedi datblygu i fod yn Brif Wneuthurwr Trelars y DU. Ers 1958, mae’r busnes wedi tyfu ac wedi ennill enw da iddo'i hun am ddylunio cynnyrch cadarn a dibynadwy sy'n cael eu darparu i dros hanner cant o ddosbarthwyr yn y DU a rhwydwaith sy’n tyfu ledled y byd. Ers 2016, mae IWT wedi bod yn falch o noddi Clwb Pêl-droed Wrecsam ac ar ben eu digon gyda'u llwyddiant anhygoel.