English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Rheolaeth

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Christopher Meyers

 
 
 
 
 
 

Llongyfarchiadau Christopher Meyers, Prentis y Flwyddyn - Rheolaeth

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Christopher Meyers

Ysgol Emrys Ap Iwan, Abergele

Mae’r swyddog canolfannau Undeb Rygbi Cymru, Christopher Meyers, wedi defnyddio’r sgiliau enillodd ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i wneud rygbi’n fwy hygyrch i bobl ifanc.

Datblygodd Chris ei sgiliau ar draws gwahanol sectorau tra’n sicrhau fod disgyblion Ysgol Emrys Ap Iwan, Abergele yn cael profiadau o safon sydd wedi eu gwreiddio mewn rygbi a dadansoddi data.

Roedd ei waith yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd i’r afael â chyfranogiad merched a rygbi hygyrch i gadeiriau olwyn yn yr ysgol ac o fewn y clwb y mae’n ei reoli.

Sicrhaodd hefyd fod mwy o lwybrau dysgu a datblygiad ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr i’r clwb.

Mae Chris wedi datblygu perthnasau positif gyda’i holl randdeiliaid ac mae’n benderfynol i ddefnyddio ei sgiliau arwain a rheoli i ddod a rygbi i fywydau mwy o bobl. Roedd ei holl waith yn yr ysgol yn cyd-fynd â newidiadau i gwricwlwm yr ysgol.


Lorraine Anne Orger

ClwydAlyn

Mae Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheolaeth wedi helpu Lorraine Orger i gynyddu ei gwybodaeth a’i hyder yn ClwydAlyn, landlord cymdeithasol sy’n rheoli dros 6,200 o gartrefi yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Wedi iddi gael ei dyrchafu fel cadeirydd y fforwm staff, fe helpodd Lorraine i gyflwyno prosesau adnoddau dynol newydd a, gyda chydweithiwr, creu cystadleuaeth i gael syniadau gan staff ynghylch arbedion effeithlonrwydd.

“Mae hyder Lorraine wedi cynyddu gyda’i gwybodaeth ac rydym i gyd yn gweld faint mae hi wedi tyfu a datblygu yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai ei rheolwr llinell, Rachel Storr Barber.

Yn ogystal â’i swydd, trefnodd Ddyddiau Hwyl ClwydAlyn am ddwy flynedd, ac hefyd i becynnau fflagiau, cwpanau, baneri a balwnau gael eu rhannu i gartrefi gofal y cwmni a phrosiectau allanol i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022.

Management Apprentice, Mel Davis

Mel Davis

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy

Nid oedd gan Mel Davis unrhyw gymwysterau ffurfiol pan ddechreuodd hi ar ei thaith dysgu yn 2017, gyda Phrentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad, a cafodd ei hasesu fel bod yn dyslecsig. Addasodd Grŵp Llandrillo Menai asesiadau i siwtio ei dull dysgu ac nid yw Mel wedi edrych yn ôl wedi hynny.

Mae ei hymrwymiad i ddysgu ac i’r bobl mae’n eu cefnogi yng Nghanolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi ennill gwobr prentisiaeth i Mel yn 2019. Ers hynny, mae wedi cwblhau cymwysterau Lefelau 3, 5 a 7 mewn cwnsela, hyfforddi a mentora a Diploma Lefel 4 mewn rheoli prosiect.

Mae hefyd wedi dylunio rhaglen hyfforddi unigryw o’r enw 'Confidently you' i gefnogi pobl i adeiladu eu hyder a’u sgiliau cymdeithasol ac wedi sicrhau cyllid gan y Llywodraeth i ehangu’r rhaglen sydd wedi newid bywydau.

Wedi ei dylunio’n wreiddiol i gefnogi 30 o bobl, mae’r rhaglen wedi cefnogi 60 sydd wedi ffurfio eu rhwydwaith cefnogaeth cymunedol eu hunain a llawer ohonynt wedi dod o hyd i gyflogaeth.

 
 

Noddwr y Wobr

Harlech Foodservice Ltd logo