Fel trefnwyr Gwobrau Prentisiaethau Gogledd Cymru rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i beidio â dyfarnu gwobr ‘Prif Brentis y Flwyddyn’ ar gyfer 2024 yn dilyn marwolaeth un o’n henillwyr talentog Prentis y Flwyddyn.
Noddwr y Wobr
Babcock Group
Mae Babcock yn un o brif ddarparwyr y gwasanaethau peirianegol cymhleth sy'n achub bywydau, diogelu cymunedau ac amddiffyn ein gwlad.
Rydym yn canolbwyntio ar dair marchnad a reoleiddir yn fanwl – amddiffyn, y gwasanaethau brys a gwasanaethau niwclear sifil. Trwy hyn, rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol ac yn rheoli asedau cymhleth yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Rydym yn bartner dibynadwy sy'n deall bod cyfraniad ein technoleg, ein harbenigedd, ein hisadeiledd a'n hasedau'n hollbwysig i lwyddiant ein cwsmeriaid.
Gyda'i arbenigedd diguro, mae Babcock Aviation yn darparu gwasanaethau hanfodol ym maes hedfanaeth i'r sector sifil a'r sector amddiffyn.