English

Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025


Prentis y Flwyddyn

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Fiorella Wyn Roberts

Mae gan y dalentog Fiorella Wyn Roberts ddyfodol disglair o’i blaen fel gweithiwr proffesiynol colur a gwallt yn y byd teledu a ffilm yng Nghymru, yn ôl Sgil Cymru.

Wedi iddi gwblhau Prentisiaeth mewn Creu, Cynhyrchu a Chrefft yn y Cyfryngau gydag Ap Prentis, mae mewn sefyllfa dda i ddatblygu ei gyrfa.

Tra’n gweithio ar y ffilm MadFabulous gyda MadasBirds, gwnaeth Fiorella gymaint o argraff ar y dylunydd gwallt a cholur a’i thîm eu bod nhw wedi mynd â hi gyda nhw i weithio ar gyfres newydd i HETV.

“Mae wedi bod yn ddigon dewr i gymryd blwyddyn allan yn ei 30au i ddilyn ei breuddwyd,” yn ôl Sgil Cymru, ble treuliodd Fiorella flwyddyn. “Mae ei llwyddiant hyd yn hyn yn profi bod prentisiaethau’n gweithio ac yn newid bywydau pobl.”

Gareth Jones

Rheilffordd Cwm Rheidiol

Mae gyrfa Gareth Jones fel rheolwr manwerthu yn Rheilffordd Cwm Rheidiol yn Aberystwyth ar y cledrau cywir wedi iddo gwblhau Prentisiaeth mewn Marchnata Digidol i gefnogi ei ddatblygiad personol a’i rolau amrywiol yn y gwaith.

Wedi gweithio ar y rheilffordd ers wyth mlynedd, mae’n gorcuhwylio cownter y siop, y rota staff, rheolaeth stoc ac e-fasnach, yn ogystal â rheoli’r rheolyddion signal ar ei ddyddiau dynodedig.

Gwnaeth Gareth argraff ar ei asesydd trwy’r ymchwil a’r gwaith roedd wedi eu gwneud i uwchraddio gwefan a phlatfform e-fasnach gwreiddiol siop y rheilffordd. Dangosodd hefyd sgiliau digidol a rheolaeth amser o lefel uchel, gan gwblhau ei brentisiaeth er ei fod yn jyglo bywyd teuluol gyda thri o blant, cyfrifoldebau gwirfoddoli, a dysgu’r iaith Gymraeg.

Disgrifiai ei gyflogwr ef fel “aelod staff gwerthfawr a chydwybodol iawn”.

Leanne Atlee

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyniodd Leanne Atlee ganmoliaeth am ei hymrwyiad a’i hymroddiad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, wedi iddi gwblhau prentisiaeth a chymwysterau eraill yn gysylltiedig â’r gwaith.

Cyflawnodd Wobr SFJ Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Brys Tân ac Achub, gan ddatblygu ei sgiliau yr un pryd.

Gyda chefnogaeth gan Green Watch Deeside, mae Leanne wedi derbyn ac wedi cymryd cyfrifoldebau ychwanegol ynghynt na’r disgwyl er budd y gwasanaeth tân ac achub a’i chydweithwyr.

Mae’n aelod o’r UKRO Water Rescue Boat Team, wedi cystadlu yn Swydd Hants ac Ynys Wyth ym mis Medi diwethaf, ac an aelod gweithgar o Women in the Fire Service.


Liam Ossian Thomas

Bwyty'r Wal

Disgrifiodd asesydd y prif gogydd Liam Thomas ef fel “pencampwr go iawn i ddysgu yn y gweithle”, gan arwain yn ôl esiampl i annog cydweithwyr i ddod yn brentisiaid.

Mae Liam, sy’n gweithio ym mwyty Wal, Caernarfon, wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol i gwblhau Prentisiaeth mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch, gan hybu ei sgiliau coginio ac arwain ar y ffordd.

Yn ddysgwr brwdfrydig, roedd â diffyg hyder yn ei allu ar y cychwyn, ond roedd ganddo’r dreif a’r penderfyniad i wella ei sgiliau.

Fe helpodd ei gyflogwyr i ehangu drwy agor bwyty pizza Tân coed, wedi iddo fynychu dosbarthiadau meistr gydag arbenigwr pizza Eidalaidd, gan ymchwilio’r offer oedd ei angen a chyfrannu i gynllun buses.

Mynychodd ystod o dosbarthiadau meistr eraill hefyd er mwyn dysgu mwy am fwydydd y byd ac mae’n hapus i rannu ei wybodaeth a’i sgiliau gyda’i gydweithwyr.

Nash Costigan

Babcock

Bu ymuno â Rhaglen Prentisiaid Babcock yn hwb i hyder a sgiliau cyfathrebu Nash Costigan, a sicrhau swydd barhaol iddo’n cynnal a chadw’r awyren Hawk TMk2 aircraft yn RAF Y Fali, ar Ynys Môn.

Derbyniodd ganmoliaeth am ei agwedd rhagorol i ddysgu, a pasiodd Nash nifer o gyrsiau hyfforddiant mewnol i’w helpu i gyflawni ei Brentisiaeth mewn Peirianneg Awyrennol. Mae Nash yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o’r tîm cynnal a chadw awyrennau ac yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Rheoli erbyn hyn.

Roedd ei natur distaw a swil yn destun pryder i Babcock ar y dechrau, ond ymatebodd i’r her drwy gefnogi ymweliadau ysgol oedd yn gofyn iddo siarad gyda grwpiau yn eu harddegau a rhoi sgyrsiau am arteffactau awyrennau.

Bu’n briffio ei gyfoedion hefyd, wedi iddo fynychu cyfarfodydd Grŵp Adolygu Diogelwch a Iechyd a Diogelwch.


Ebony Riordan

Ysgol Maesglas

Mae dysgu yn y gweithle wedi trawsnewid Ebony Riordan o fod yn ferch nerfus a phryderus yn ei harddegau, a adawodd addysg yn ystod y pandemig Covid, i fod yn fyfyriwr prifysgol gyda’r uchelgais i gymhwyso fel athrawes.

Dechreuodd taith ysbrydoledig Ebony gyda Cyflawni Mwy o Hyfforddiant, ble cofrestrodd ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gan gyflawni cymwysterau Lefelau 1 a 2 mewn Hyfforddiant Chwaraeon.

Dilynodd hyn gyda lleoliad profiad gwaith llwyddiannus yn Ysgol Maesglas yn Nhreffynnon, ac aeth Ebony ymlaen i gyflawni Prentisiaeth Sylfaen ar gyfer Cymorthyddion Dysgu a Phrentisiaeth mewn Dysgu ac Addysgu gyda Chefnogaeth Arbenigol.

Mae nawr wedi symud ymlaen i addysg uwch i ddilyn gyrfa fel athrawes gymwys yn cefnogi pobl ifanc o leoliadau gofal neu gydag anghenion dysgu ychwanegol.

 
 

Noddwr y Wobr

Snowdonia Hospitality & Leisure logo

Ers dros hanner can mlynedd rydym wedi rhedeg busnes lletygarwch teuluol sydd wedi ennill gwobrau lawer. Mae ein tri gwesty: Gwesty'r Waterloo, Gwesty'r Royal Oak a'r Stables Lodge i gyd wedi'u lleoli ym Metws-y-coed. Rhwng y tri gwesty mae yna bum bwyty, tri bar, mannau bwyta awyr agored, sba a chyfleusterau ffitrwydd a hamdden.

Mae ein gwerthoedd yn greiddiol i'r hyn rydym yn ei gynnig sef cynnyrch lleol a thymhorol a ddarperir gan dîm gwych sy'n cynnwys llawer o staff sydd wedi gweithio i ni ers dros bymtheg mlynedd. Rydym yn buddsoddi yn sgiliau a datblygiad ein gweithwyr trwy dalu am gyrsiau, cynnig prentisiaethau a darparu gyrfaoedd sydd â llwybrau dilyniant pendant.

 

08445 460460 | busnes@gllm.ac.uk