
Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025
Prentis y Flwyddyn - Uwch
Llongyfarchiadau i William John Holmes
Billy, Rheolwr Cofrestredig gyda MHC UK Ltd, Dinbych yw enillydd Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn - Llongyfarchiadau!
Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

William Holmes
MHC UK Ltd Dimbych
Dangosodd William Holmes arweinyddiaeth ac arloesiad eithriadol trwy gyflwyno diffribilwyr mewn lleoliadau gofal fel rhan o Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli mewn Gofal a Iechyd Cymdeithasol.
Yn ymroddedig i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, daeth William i fyny gyda phrosiect nid yn unig i ddod â diffribilwyr fyddai’n achub bywydau yn MHC UK Ltd, Sir Ddinbych, ond hefyd i hyfforddi staff ar sut i’w defnyddio mewn argyfwng, fel rhan o’u gofal ar gyfer yr henoed a’r rhai sy’n agored i niwed.
Cododd y ffocws hwn ar addysg a hyfforddiant nid yn unig hyder y staff wrth ddelio â sefyllfaoedd argyfwng, ond hefyd yr ymwybyddiaeth gyffredinol o bwysigrwydd iechyd cardiaidd.
Golygai’r prosiect gynnal dadansoddiad cost a budd, asesu buddion hir-dymor y defnydd o ddiffribilwyr o fewn y sefydliad, cysylltu gyda chyflenwyr a threfnu hyfforddiant.

Naomi Archer
Ysgol Tir Morfa
Derbyniodd Naomi Archer ganmoliaeth am ei hymroddiad eithriadol, ei gwaith caled, a’i hymrwymiad cryf i’w swydd yn Ysgol Tir Morfa, ysgol anghenion dysgu ychwanegol yn Y Rhyl.
Wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) Gweinyddu Busnes, rhagorodd yn rheolaidd ar y disgwyliadau yn ei hasesiadau a’i gwaith. Mae’n dangos ymrwymiad cryf i ddatblygiad personol, gan geisio am gyfleoedd i gael profiad ac i dyfu.
Mae ei harbenigedd digidol wedi bod yn werthfawr iawn i gynllun Sero Net yr ysgol, ac mae’n ysgrifenyddes i fwrdd llywodraethwyr yr ysgol. Mae’n gydweithiwr gydag etheg gwaith cryf, ac mae Naomi wedi cyfrannu i her gymunedol leol wrth gasglu llyfrau ar gyfer y bobl ifanc.
“Mae Naomi yn brentis eithriadol sy’n haeddu cael ei chydnabod am ei gwaith caled, ei hymroddiad, a’i thalent,” meddai ei thiwtor. “Mae ganddi ddyfodol disglair o’i blaen.”

Darren Morris
Gwasanaethau Pobl Ifanc Cyngor Sir y Fflint
Mae Darren Morris yn defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth mae wedi eu hennill o gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli er budd Gwasanaethau Pobl Ifanc Cyngor Sir y Fflint a chwsmeriaid.
Mae nawr yn fwy hyderus am wneud penderfyniadau strategol ac wedi arwain ei dîm tuag at lwyddiant sefydliadol. Trwy weithredu strategaethau effeithiol, mae Darren wedi meithrin gwell cyfathrebu ac wedi hybu cynhyrchiant cyffredinol.
Mae’r Brentisiaeth Uwch nid yn unig wedi atgyfnerthu ei alluoedd arwain a rheoli, ond hefyd wedi gwella’r ddarpariaeth gwasanaeth yn ddiriaethol, ac mae wedi dod yn fodel rôl o fewn ei dîm am gynnydd a datblygiad.
Mae cyfraniad Darren i amcanion strategol y Rhaglen Ieuenctid Integredig wedi cynyddu cyfranogiad rhanddeiliaid ac mae system dracio a gwerthuso y mae wedi ei chyflwyno yn darparu data gwerthfawr i gefnogi ceisiadau grant.