English

Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025


Prentis y Flwyddyn - Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Jenny Thomas

 
 
 
 

Jenny Thomas yw Prentis y Flwyddyn - Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Llongyfarchiadau!

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Charlotte Dyas

Cyngor Conwy

Mae’n mor galonogol gweld Charlotte wrthi’n ymarferol, ac mae ei thosturi, ei brwdfrydedd, a’r ffordd mae hi’n gofalu am y bobl mae hi’n eu cefnogi’n ysbrydoledig. Mae hi’r math o berson y byddech eisiau ei gweld yn edrych ar ôl eich Nain a’ch Taid.

Mae Charlotte yn siarad Cymraeg, ac yn rhagweithiol ynghylch siarad Cymraeg gyda phobl mae’n gweithio gyda hwy, gan gofyn iddynt hwy i’w helpu hi i wella.
Mae ei gwaith o safon ardderchog, ac mae Charlotte wedi cwblhau ei sgiliau hanfodol ac wedi pasio gyda marciau uchel, ac roedd yn arbennig o falch i basio mewn mathemateg gan nad hwnnw oedd ei phwnc cryfaf. Bydd yn dechrau rhaglen i hyfforddi fel therapydd galwedigaethol ym Mhrifysgol Wrecsam yn fuan y flwyddyn nesaf.

Magi Elin Hughes

Byw'n Iach Arfon

Mae Magi wedi cwblhau ei Diploma NVQ Lefel 3 mewn Cefnogi Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn Byw’n Iach. Roedd yn bleser i’w chefnogi, a’i gwaith, ei hagwedd, ei hymdrech a’i hymroddiad wastad yn rhagorol.

Mae Magi yn ddibynadwy, ac yn gweithio yn Bwy'n Iach Arfon ble mae’n darparu mewn ysgolion cymunedol lleol yn ardal Gwynedd. Caiff ei gwaith effaith ar gymunedau lleol yn ardaloedd Caernarfon a Gwynedd trwy ymgysylltu nifer o ysgolion a phlant lleol yn ymarferol mewn chwaraeon.

Mae Magi wedi symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 Hyfforddiant Personol, ac yn anelu i ehangu ei gwybodaeth a’i sgiliau mewn maes newydd tra’n atgyfnerthu ei CV, a hyn oll er mwyn cyflawni ei nodau gyrfaol yn y dyfodol.

Nia Haf Thomas

Tyddyn Môn

Mae gwaith Nia bob amser o safon uchel, ac mae’n darparu enghreifftiau o’i harferion gwaith i sicrhau ei bod yn dangos dilysrwydd a dealltwriaeth. Mae Nia hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac yn sgwrsio yn Gymraeg ble bynnag mae hynny’n bosibl o fewn ei gwaith ble mae’n cefnogi unigolion ac mewn sgyrsiau gyda’i chydweithwyr a’i hasesydd.

Mae gan Nia ffocws anhygoel, bob amser yn gweithio tuag at y targedau rydym yn eu trafod ac yn eu gosod ar ei chyfer yn ystod ei hadolygiadau cynnydd, ac yn sicr o beidio methu dyddiad cau. Trwy gydol ei thaith dysgwr, cadwodd mewn cysylltiad gyda’i hasesydd, gan wneud defnydd o’r holl systemau ar-lein. Mae’n aelod gwerthfawr o’r tîm yn Tyddyn Môn.

Jennifer Ann Thomas

Tyddyn Môn

Dangosodd Jenny waith caled ac roedd wedi ymrwymo i gwblhau y cymhwyster. Cafodd amser anodd yn ystod ei chyfnod cymhwyso oherwydd amgylchiadau personol, ond ni adawodd i hynny ei rhwystro rhag symud ymlaen gyda’i chymhwyster.

O’r Alban yn wreiddiol, mae Jenny wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i ddysgu Cymraeg. Yn Tyddyn Môn, mae’n defnyddio ei sgiliau iaith i gefnogi unigolion yn ymarferol ac i ymgysylltu mewn sgyrsiau gyda’i hasesydd, cydweithwyr, ac eraill. Mae pawb yn falch o’r gwaith mae hi wedi ei roi i mewn i ddatblygu ei sgiliau ar gyfer y brentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, tra hefyd yn dysgu i siarad Cymraeg.

 
 

Noddwr y Wobr

Coleg Cymraeg Cenedlaethol logo

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy gydweithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i ddatblygu addysg Gymraeg a dwyieithog.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod uchelgeisiol o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Bydd rôl allweddol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol er mwyn sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd.

Yn ddiweddar, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ymestyn ei gyfrifoldebau i’r sector ôl-16 yn greiddiol i hynny mae’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Mae cylch ein gwaith yn cynnwys cefnogi Colegau i benodi staff dwyieithog i addysg ym meysydd blaenoriaeth Iechyd a Gofal, Gofal Plant a Gwasanaethau Cyhoeddus. Fel rhan o’r gwaith rydym yn comisiynu a datblygu adnoddau, darparu grantiau hybu a hyrwyddo er mwyn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi cynllun llysgenhadon cenedlaethol er mwyn annog a dylanwadu ar ddysgwyr i barhau i astudio elfennau o’u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

08445 460460 | busnes@gllm.ac.uk