Llongyfarchiadau i Enlli Jones
Llongyfarchiadau Enlli Jones!
Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:
Cameron Griffith
Gwyn Thomas and Co Limited
Bydd Cameron Griffiths yn cofio’r oed 22 am resymau da iawn. Roedd yn rhan o’r tîm enillodd fedal efydd yng nghystadleuaeth cyfrifeg Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru, pasiodd ei arholiadau, daeth yn dad am y tro cyntaf, symudodd i fyw a pasiodd ei brawf gyrru.
Wedi iddo gyflawni ei gymhwyster AAT Lefel 3 mewn cyfrifeg, mae’n gwneud cynnydd da gyda’r AAT Lefel 4 erbyn hyn ac wedi cymryd y cyfrifoldeb o baratoi a chyflwyno datganiadau TAW a chwblhau cyfrifau mwy cymhleth.
Ymunodd Cameron â Gwyn Thomas and Co Limited ym mis Medi 2021 ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru, pan roedd yn edrych i ddechrau o’r newydd, ac mae wedi creu argraff gyda’i addasrwydd a’i ddawn i weithio’n gywir ac yn sydyn gan roi sylw i’r manylion.
Mae ei reolwr Gwyn Thomas yn rhagweld y gallai Cameron fod yn gwneud ei swydd ef yn y dyfodol!
Lauren Harrap Tyson
Bennet Brooks
Roedd Lauren Harrap Tyson yn aelod o’r tîm Grŵp Llandrillo Menai enillodd y fedal arian yng nghystadleuaeth cyfrifeg Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru, gan gymhwyso ar gyfer rownd derfynol WorldSkills UK. Wedi ei hysbrydoli gan y profiadau hynny, mae’n bwriadu cystadlu eto yn 2024.
Mae ei hagwedd broffesiynol i ddysgu a’r cynnydd mae hi wedi ei wneud wedi eu disgrifio fel rhagorol ac mae’n fodlon iawn i gefnogi ei chyfoedion.
Cyflawnodd Lauren ei AAT Lefel 3 gyda merit ac mae’n gweithio tuag at gymhwyster Lefel 4 erbyn hyn. Mae’n gyflogai gwerthfawr yn Bennet Brooks yn Llandudno, mae hefyd yn gyfrifol am ddatganiadau treth, ac mae cynlluniau i’w dyrchafu i swydd uwch mewn treth personol pan fydd hi’n cymhwyso.
Yn ychwanegol i oruchwylio bilio cleientiaid, mae hefyd yn hyfforddi aelod staff newydd.
Enlli Jones
Cyngor Gwynedd
Ymgymrodd Enlli Jones nid yn unig â’r dasg o gyflawni cymhwyster AAT Lefel 2, ond roedd yn rhaid iddi oresgyn yr her o ddeall y derminoleg Saesneg sy’n gysylltiedig â chyfrifo.
Cafodd Enlli ei haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi mynd i’r afael â’r her o astudio’r cwricwlwm AAT cyfrwng Saesneg, tra’n datblygu ei gwybodaeth o’r derminoleg a’i hyder i siarad Saesneg, ond mae’n parhau i sgwrsio yn y Gymraeg gyda’i chyfoedion yn y dosbarth.
Mae ei hymroddiad i’w swydd ac i’r cymhwyster wedi eu hadlewyrchu yn y marciau uchel mae hi wedi eu cyflawni.
Mae Enlli wastad yn barod i ymgymryd â thasgau newydd yn nhîm cyllid Cyngor Gwynedd a dywedir bod ei chynnydd a’i datblygiad yn llawer uwch na’r disgwyl yn y pwynt hwn yn ei phrentisiaeth.
Noddwr y Wobr
Mae Alpine Travel wedi bod yn drefnydd llogi bysiau moethus yng Ngogledd Cymru ers 1972. Rydym yn angerddol ynghylch darparu cludiant diogel a dibynadwy i dwristiaid, teuluoedd, grwpiau busnes ac eraill. Mae'n fflyd o gerbydau yn cynnig yr hyblygrwydd mwyaf posibl at bob achlysur, o gerbydau 7 sedd i fysiau moethus. Yn Alpine Travel rydym yn credu mewn rhoi gwasanaeth eithriadol ac mae'n tîm cyfeillgar yn sicrhau eich bod yn mwynhau teithio mewn cyfforddusrwydd. Gyda’n cynlluniau craff, ein trefnu gofalus ac angerdd aelodau'r tîm rydym yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch teithiau wrth i chi grwydro Gogledd Cymru.