English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Gweinyddu Busnes, Manwerthu a Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Alice Evans

 
 
 
 

Llongyfarchiadau Alice Evans!

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 
Alice Evans, Business Administration Apprentice

Alice Evans

Heddlu Gogledd Cymru

Mae Alice Evans wedi cael effaith gadarnhaol ers iddi ymuno â’r tîm gwirio yn Heddlu Gogledd Cymru a chwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes naw mis yn fuan.

Dechreuodd yn ei swydd yn gwybod dim am blismona, am safonau proffesiynol na gwirio, a chydag ystod cyfyngedig o sgiliau, ond mae’r cynnydd y mae hi wedi ei wneud wedi’i ddisgrifio fel “rhyfeddol”.

Dyfeisiodd Alice welliannau effeithlonrwydd o fewn rôl ei swydd a chynnal ymchwil i ymgysylltiad yr heddlu gyda phobl ifanc, tra hefyd yn cael profiad mewn gwahanol adrannau.

Trwy gwblhau’r brentisiaeth a’r cyrsiau i uwchsgilio ei hun a gwneud gwaith prosiect, mae wedi cael effaith gadarnhaol yn Heddlu Gogledd Cymru.

Lina Darras

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Roedd cwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes wyth mis yn gynt na’r disgwyl wedi helpu Lina Darras i gael dyrchafiad gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Wedi ei chyflogi’n wreiddiol fel prentis anableddau dysgu, mae Lina’n ysgrifennydd i dîm Cymunedol Conwy erbyn hyn ac wedi symud ymlaen i Brentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes.

Mae’n siaradwr Arabeg brodorol, gall siarad Ffrangeg a Saesneg yn rhugl, a cafodd ei disgrifio gan ei haseswr fel “dysgwr gwych” sy’n cwblhau ei gwaith o flaen ei amser ac i safon uchel.

Angharad Kellett

Grŵp Llandrillo Menai

Cyfranodd chwant Angharad Kellett am wybodaeth at iddi gwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes 11 mis yn fuan.

Cafodd ei recriwtio fel cymhorthydd gweinyddol gan Grŵp Llandrillo Menai heb unrhyw brofiad gwaith blaenorol. Ers hynny, mae wedi dangos ei hyblygrwydd a’i pharodrwydd i ddysgu ac i fynd i’r afael â heriau newydd trwy ddarparu cefnogaeth yn yr MIS a’r timau archwilio.

Parhaodd ei thaith dysgu i gynnwys Prentisiaeth Uwch mewn Gweinyddu Busnes a Phroffesiynol ochr yn ochr â’i chymwysterau eraill.

Mae agwedd Angharad at waith wedi arwain at weithlu mwy effeithlon a gwell perfformiad. Erbyn hyn, mae’n dangos ei sgiliau arwain trwy gefnogi prentis gweinyddu newydd.

 
 

Noddwr y Wobr

bennetbrooks logo

Mae bennettbrooks ymhlith y 100 practis rhanbarthol gorau am gynnig cymorth rhagweithiol ym maes busnes a chyfrifyddiaeth.

Mae ein gwreiddiau yng ngogledd Cymru yn gadarn ac rydym yn gweithio gyda llawer o berchnogion busnes ar draws yr ardal. Mae'r tîm yn Llandudno i gyd yn byw'n lleol, ac maent wedi sefydlu perthynas dda â'n cleientiaid ac yn deall beth sy'n ysgogi'r economi leol ac yn effeithio arni. Yn cefnogi'r tîm yn Llandudno, mae gan bennettbrooks 180 o staff wedi'u lleoli mewn wyth swyddfa ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr sy'n gallu cynnig cyngor arbenigol ychwanegol. Rydym yn falch o'r enw da sydd gennym ers dros 40 mlynedd am helpu busnesau i lwyddo.