Llongyfarchiadau i Jake Grundey
Llongyfarchiadau Jake!
Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:
Jake Grundey
Ymunodd Jake Grundey â’r rhaglen hyfforddi M&S wedi iddo beidio gwneud yn dda yn ei arholiadau TGAU ac â diffyg yn ei hunan-barch a’i hyder.
Mae’r rhaglen hyfforddi pedair wythnos gyda hyfforddiant Copa Training, sy’n gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth y Tywysog, i’w helpu i sicrhau swydd mewn manwerthu. Mae wedi datblygu ei sgiliau cyfathrebu, adeiladu tîm a gwybodaeth seiliedig ar waith, wedi mwynhau agweddau ymarferol y rhaglen, ac hyd yn oed wedi ymddangos mewn fideo TikTok i M&S!
Roedd gweithio yn M&S yn rhywbeth yr oedd eisiau ei wneud go iawn, ac roedd hynny’n dod drwodd yn glir yn ei raglen hyfforddi, yn gwneud mwy na’r gofyn i gwblhau yr holl dasgau a roddwyd iddo.
Lucian Stafford
Symudodd Lucian Stafford ymlaen i’r chweched dosbarth i astudio dyniaethau wedi iddo gwblhau rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws a chymhwyster Lefel 2 Cymhwyso Rhif.
Dechreuodd y rhaglen heb wybod beth roedd am ei wneud, ond gyda diddordeb mewn gwaith coed fel hobi neu wneud gwaith ei hun. Yn y diwedd, penderfynodd astudio’r dyniaethau yn y chweched dosbarth ac mae’n awyddus i ddysgu ac i wella ei hun.
Roedd canmoliaeth iddo gan ei swyddog hyfforddi am ei garedigrwydd a’i gwrteisi, ac roedd Lucian wastad yn barod i rannu ei fewnwelediad a’i wybodaeth gyda’i gyfoedion.