Gwobrau Prentisiathau 2024
Prentis y flwyddyn
Peirianneg, Gwaithgynhyrchu a Storfeydd
Llongyfarchiadau i Osian Roberts
Llongyfarchiadau Osian!
Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:
Nathaniel Evans
Babcock International Group
Er fod gan Nathaniel Evans ddiffyg hunan-hyder mae ganddo’r gallu prin i egluro gweithgareddau peirianneg cymhleth mewn ffordd y gall rhai nad ydynt yn beiriannwyr eu deall.
Mae Nathaniel yn gweithio i Babcock International Group yn RAF Y Fali ble mae wedi ennill profiad mewn nifer o adrannau. Disgrifiwyd ef fel “dysgwr chwilfrydig”, mae’n gofyn y cwestiynau iawn a llawer ohonynt.
Mae Nathaniel yn rhagori pan yn gweithio gyda chelfi sy’n ei alluogi i ddangos ei wybodaeth dechnegol drawiadol a’r angerdd tuag at beirianneg y mae’n ei rannu yn ystod ymweliadau ysgol i’r cwmni ac mewn digwyddiadau Gyrfaoedd Cymru.
Mae hefyd wedi gweithio ar brosiect Babcock yn Nuneaton, gan dderbyn canmoliaeth am ei gyfraniadau i brosesau dylunio a gweithgynhyrchu.
Osian Roberts
IAQ Ltd
Cafodd Osian Roberts ei ddisgrifio fel “un o filiwn” fel prentis gan ei asesydd. O fewn tair wythnos i ymuno â’r gweithgynhyrchydd IAQ Ltd, roedd yn rhedeg adran ar ei ben ei hun ac mae hefyd wedi cystadlu yn y categori turnio CNC yn y ffeinal WorldSkills UK ym mis Tachwedd.
Mae’n brentis trydedd flwyddyn ac yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol ochr yn ochr â’i rôl fel gweithredwr canolfan durnio CNC ar gyfer IAQ.
Bydd Osian yn cystadlu yn ffeinal genedlaethol WorldSkills UK fel y prentis peirianneg cyntaf i gynrychioli Grŵp Llandrillo Menai yn y rhan hwn o’r gystadleuaeth fawreddog hon. Enillodd fedal efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni, er ei fod yn anghyfarwydd gyda’r meddalwedd a ddefnyddiwyd yn y gystadleuaeth.
David Evans
Carl Kammerling International
Mae David Evans wedi gwneud cyfraniad trawiadol i Carl Kammerling International ers iddo ymuno â’r tîm warws.
Wedi cyflawni’r Brentisiaeth Sylfaen mewn Warysau a Storio a’r Cymhwyster IOSH Rheoli’n Ddiogel, mae wedi symud ymlaen i Brentisiaeth erbyn hyn.
Ymunodd â’r cyfanwerthwr fel prentis gweithiwr warws, wedi iddo weithio mewn sefydliadau manwerthu cyn hynny. Yn fuan, dewiswyd ef i gynrhychioli’r tîm warws ar bwyllgor Iechyd a Diogelwch y cwmni ac mae wedi cyfrannu i asesiadau risg a Systemau Gwaith Diogel.
Neidiodd David ar y cyfle i ymuno â thîm allforio’r warws ac mae’n gweithio am Dystysgrif Gweithrediadau Allforio erbyn hyn. Dywed cyflogwr David fod ei ddatblygiad a’i frwdfrydedd yn gosod esiampl gwych i’w gydweithwyr yn y warws.
Noddwr y Wobr
Ers 2004, mae Mona Lifting Ltd wedi bod yn darparu datrysiadau arloesol ym maes codi a pheirianneg i amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae'r cwmni wedi ymrwymo i ddarparu ansawdd a diogelwch o'r safon uchaf, ac mae ganddo bortffolio cryf o osod craeniau ac offer codi pwrpasol yn y sector niwclear, ynni dŵr, ynni gwynt a'r diwydiant awyrofod. Mae'r staff wedi cael hyfforddiant trwyadl mewn dylunio a gweithredu offer codi. Mae'n arbenigo mewn craeniau uchel symudol, offer codi pwrpasol a pheirianneg fecanyddol, gan gyflawni gwaith dylunio a gweithgynhyrchu mewnol i safonau ansawdd a dilysu uchel sy'n cynnwys ISO9001, ISO14001, EN45001 a BSEN1090. Mae gan y cwmni enw da am gwblhau prosiectau cymhleth yn llwyddiannus.