English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i Jessica Owen

 
 
 
 

Llongyfarchiadau Jessica!

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

Jessica Owens

Ansa Care Concept Ltd (Plas Dyffryn)

Cofrestrodd y dysgwr cydwybodol Jessica Owens ar gwrs Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wella ei sgiliau a’i gwybodaeth wedi iddi gael dyletswyddau ychwanegol o fewn y cartref gofal ble mae’n gweithio.

Bu’n rhaid iddi gymryd seibiant o’i hastudiaethau ar gyfer gradd y Brifysgol Agored wrth iddi gwblhau’r diploma o fewn dim ond 11 mis, diolch i’w hymroddiad, a hynny er fod ganddi fywyd cartref prysur.

Wedi ei disgrifio fel dysgwr sy’n sefyll allan, sy’n gosod ei nodau ei hun, cafodd Jessica ei chefnogi a’i hannog gan ei rheolwr sy’n dweud fod ganddi’r ddawn i fynd cyn belled a mae hi’n ei ddymuno yn ei gyrfa.

Adam Sumner

MHC UK LTD

Mae Adam Sumner wedi goresgyn problemau iechyd i gyflawni Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac i ennill dyrchafiad i fod yn reolwr tîm.

Gyda chefnogaeth gan ei swyddog hyfforddi a’r gwasanaethau dysgwyr yn Grŵp Llandrillo Menai, parhaodd i ganolbwyntio ar gwblhau ei gymhwyster tra’n parhau i flaenoriaethu’r bobl roedd yn gofalu amdanynt bob amser.

Wedi iddo gael hi’n anodd gyda’i iechyd meddwl yn ystod y pandemig, dangosodd Adam wytnwch sylweddol yn ystod ei raglen hyfforddi i ddatblygu a gwneud cynnydd. Mae’n ddirprwy reolwr mewn lleoliad arall erbyn hyn.

Janet Allen

Adferiad

Criodd Janet Allen gyda hapusrwydd pan enillodd ei Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cwrs ddechreuodd hi ar ddechrau’r pandemig.

Wedi gweithio mewn ysbytai cyn y pandemig, symudodd i leoliad arall i gefnogi gofalwyr pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ac roedd yn bryderus ar y cychwyn am ei bod yn ddysgwr hŷn.

Ond, roedd Janet yn benderfynol o ennill y cymhwyster ac mae’r sgiliau a’r wybodaeth ychwanegol y mae hi wedi eu derbyn wedi cynyddu ei hyder i gefnogi gofalwyr sydd yn canmol ei hymroddiad yn fawr.

 
 

Noddwr y Wobr

Carelink Homecare Services Ltd logo

Sefydlwyd Carelink Homecare Services Ltd yn 1988, ac mae ein hethos o ragoriaeth bob amser yn cael ei adlewyrchu yn ein bwriad i ddarparu’r gofal mwyaf effeithiol posibl i’r unigolion sy'n derbyn ein cymorth a’u teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain, gan amharu cyn lleied â phosibl ar eu trefn arferol, annog annibyniaeth, a'u galluogi i fyw bywyd mor llawn â phosibl.

Mae Carelink yn hynod o falch o'i ymrwymiad i ddatblygu ei staff ac o'i bartneriaeth gref â Grŵp Llandrillo Menai. Mae ein tîm Rheoli Gofal presennol i gyd wedi cael dyrchafiad o'n tîm gofal. ⁠Yn ein barn ni mae gofalu yn broffesiwn, a gweithwyr proffesiynol sy'n cyflawni'r gwaith.