English

Gwobrau Prentisiathau 2024

Prentis y flwyddyn


TG a Marchnata Digidol

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Llongyfarchiadau i John Gill

 
 
 
 

Llongyfarchiadau John!

 
 

Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

 
 

John Mark Gill

Conwy Mind

Mae John Gill wedi cynyddu presenoldeb Conwy Mind ar y cyfryngau cymdeithasol ers ymuno â’r elusen ac wedi dod yn ran pwysig o’r tîm.

Yn gymhorthydd cyfryngau cymdeithasol, mae John hefyd wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes i ddatblygu ei sgiliau marchnata digidol.

Dywed fod ei brentisiaeth wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau iddo y mae eu hangen i lansio gyrfa ddigidol ac mae’n mwynhau gweithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl eraill.

Mae hefyd wedi helpu i integreiddio cyflogai codi arian newydd i’r tîm, gan weithio gyda hi ar ei chynnwys cyfryngau cymdeithasol a marchnata ar-lein.

Dywed Conwy Mind fod John yn dod â phersbectif newydd, syniadau newydd a chreadigrwydd, gyda’r ysgogiad i gyrraedd mwy o bobl ac i gynyddu ymwybyddiaeth mewn iechyd meddwl a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Michael Bush

Sports For Champions

Mae Michael Bush yn ddysgwr sy’n ymroddedig i ragori yn ei yrfa fel swyddog gweithredol marchnata ac i wella ei ddealltwriaeth a’i sgiliau.

Ers iddo ymuno â POP Marketing, cangen farchnata Sports For Champions, mae’r busnes wedi cynyddu ei gysylltiadau (‘leads’) o 300%. Un o brif amcanion Michael oedd i wella ac i symleiddio prosesau marchnata e-bost y cwmni sydd wedi cynyddu’r cyfraddau ymgysylltiad.

Wedi llwyddo i ennill Prentisiaeth mewn Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, dywed fod y rhaglen wedi rhoi’r celfi iddo yr oedd eu hangen i lwyddo yn ei rôl ac wedi cynyddu ei ddealltwriaeth o’r mathau gwahanol o farchnata digidol mewn amser byr.

Dywed cyflogwr Michael fod ei gyfraniadau wedi dangos y gellir cyflawni gwelliannau marchnata sylweddol gydag ymagwedd ymroddedig a’r parodrwydd i arloesi.

Elin Glyn Jones

Chwarel TV

Mae Elin Glyn Jones yn aelod pwysig o dîm cynhyrchu Chwarel TV gan ddarparu trydydd cyfres y Great House Giveaway ar Channel 4 yn ogystal â Goggle Bocs ar S4C.

Ers ymuno â’r cwmni ym mis Hydref 2022, mae Elin wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Creu, Cynhyrchu a Chrefft Cyfryngau a chwrs ymarferol dylunio sain gyda’r National Film and Television School.

Mae’n derbyn canmoliaeth uchel am ei brwdfrydedd, ei gallu a’i mwynhad wrth ddysgu sgiliau newydd, gan ragori ar yr hyn a ddisgwylid gan brentis.

Disgrifiai rheolwr gyfarwyddwr Chwarel TV, Sioned Wyn, Elin fel ased ac aelod gwerthfawr o’r tîm, sydd wastad yn hapus i fynd ymhellach ac i roi help llaw i gwblhau unrhyw dasg.

Mae ei pharodrwydd i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant yn ei galluogi i ddysgu mwy ac i ddatblygu ei sylfaen sgiliau.

 
 

Noddwr y Wobr

Belmont Hotel logo

Mae The Belmont, ein gwesty 4*, yn swatio ar arfordir prydferth Llandudno, gan gynnig golygfa heb ei ail o’r môr. Ymgollwch mewn moethusrwydd cyfforddus gyda'n harosiadau gwely a brecwast, wedi'u cynllunio i ragori ar eich disgwyliadau. Mwynhewch ein teras coctels awyr agored, lle gallwch flasu diodydd lleol braf wrth dorheulo yn awel arfordirol Gogledd Cymru. P'un a ydych yn chwilio am ymlacio neu adloniant, mae ein gwesty yn darparu ar gyfer gwesteion hamdden a chorfforaethol. Gydag amrywiaeth o gyfleusterau hamdden a mannau cyfarfod pwrpasol, rydym yn sicrhau bod eich arhosiad yn gynhyrchiol ac yn gofiadwy. Profwch geinder heb ei ail a gwasanaeth di-ben-draw yng Ngwesty'r Belmont, lle mae moethusrwydd yn cwrdd â llonyddwch.