Gwobrau Prentisiathau 2024
Prentis y flwyddyn
Hyfforddi ym Maes Chwaraeon ac Addysg
Llongyfarchiadau i Donna Pugh-Jones
Llongyfarchiadau Donna!
Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:
Donna Pugh-Jones
Ysgol Santes Fair
Mae Donna Pugh-Jones wedi ei thrawsnewid o ddynes cinio i gymhorthydd dysgu hyderus a rhagweithiol yn Ysgol Santes Fair yng Nghaergybi, wedi iddi gwblhau Prentisiaeth mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion.
Gyda chefnogaeth gan ei thiwtor a staff yr ysgol, mae hi wedi datblygu cariad tuag at ddysgu, yn enwedig mathemateg a sgiliau digidol, ac mae hi erbyn hyn yn gwneud defnydd da ohonynt yn y dosbarth i gefnogi disgyblion.
Mae hi wedi ysbrydoli eraill i ymgymryd â’r cymhwyster yn yr ysgol ac mae ei holl gydweithwyr yn canmol ei hagwedd gadarnhaol.
Mae Donna’n cyfaddef fod y cymhwyster wedi bod yn brofiad anghyfarwydd iddi, wedi rhoi hwb i’w hunan-hyder ac wedi rhoi ystod eang o sgiliau iddi y mae hi bob amser yn awyddus i’w rhannu.
Ceri Tait
Ysgol Maes Y Felin
Ymunodd Ceri Tait ag Ysgol Maes Y Felin fel cymhorthydd dysgu ar ddechrau 2022 ac mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion.
Oherwydd bod Ceri yn dyslecsig, mae ei rhaglen ddysgu wedi ei haddasu gan ei thiwtor i siwtio ei hanghenion. Mae’n darparu cefnogaeth un i un ar gyfer dau ddisgybl ac wedi datblygu perthynas dda gyda nhw a’u rhieni.
Mae’n frwdfrydig ac ymroddgar, mae’n gwneud popeth y gallai i gefnogi ei chydweithwyr a’i disgyblion. Mae’n hyfforddi tîm pêl-droed genethod ar y penwythnosau ac yn cefnogi gweithgareddau ar ôl yr ysgol ar gyfer y plant.
Disgrifiai’r pennaeth, David Thomas, Ceri fel aelod allweddol o’r staff, model rôl gwych a chymhorthydd dysgu effeithiol iawn.
Eboney Riordan
Ysgol Maesglas
Ymunodd Eboney Riordan ag Ysgol Maesglas fel cymhorddydd dysgu o’r rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws gan gyflawni cymwysterau Lefelau 1 a 2 mewn Hyfforddiant Chwaraeon ac ennill gwybodaeth bwysig am weithio mewn ysgolion.
Disgrifir hi fel person tawelgar, gofalgar a phroffesiynol, mae wedi dangos gwytnwch wrth ddelio â sefyllfaoedd heriol, rhywbeth nodwyd gan arolygydd Estyn. Mae Eboney yn gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion erbyn hyn.
Dywed Gill Lloyd o Ysgol Maesglas fod Eboney wedi profi ei bod yn hyblyg, gweithgar, yn awyddus i ddysgu a gwella ac yn fedrus wrth feithrin perthnasoedd cryf gyda chydweithwyr a disgyblion fel ei gilydd.
Noddwr y Wobr
Yn y Llandudno Bay Hotel, sy'n westy 4-seren, cewch gyfuniad gwych o gysur, soffistigedigrwydd, a gwasanaethau eithriadol wedi eu personoli, sy'n golygu ei fod yn ddewis perffaith i deithwyr busnes a hamdden. Wedi’i leoli yn nhref arfordirol hardd Llandudno, mae ein gwesty’n cynnig golygfeydd syfrdanol o’r môr ac mae'n gyfleus i gyrchfannau twristiaeth poblogaidd. Mae ein hystafelloedd moethus yn noddfeydd tawel, gyda chyfleusterau modern i sicrhau arhosiad heddychlon fydd yn eich adfywio. Gall gwesteion fwynhau bwyd blasus yn ein bwyty hardd, sy'n cynnwys bwydlen helaeth o ddanteithion. Gyda'n croeso cynnes a'n sylw gofalus gwobrwyedig i fanylion, rydym yn gwarantu profiad bythgofiadwy i bob gwestai.