
Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025
Prentis y Flwyddyn - Sylfaen
Llongyfarchiadau i Naganarayanan Ramamoorthy
Naga, s'yn gogydd yng Ngwesty St George, Llandudno yw enillydd Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn - Llongyfarchiadau Naga!
Yr enwebeion ar gyfer y wobr hon oedd:

Timothy Dykins
Ysbyty Gymunedol Treffynnon
Mae’r cyn-ddiffoddwr tân Timothy Dykins wedi cynnau gyrfa newydd yn y proffesiwn gofal iechyd ble mae wedi ei nodi am ei waith caled, ei ymroddiad a’i dosturi.
Mae Timothy yn Weithiwr Cefnogol Gofal Iechyd yn Ysbyty Gymunedol Treffynnon, rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ble mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Iechyd Clinigol o flaen ei amser.
Mae nawr yn symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 ac yn gwella ei sgiliau cyfathrebu drwy ddysgu Iaith Arwyddion Prydain yn y coleg yn ei amser ei hun.
Fel y pencampwr rheoli heintiau ar gyfer ei ward, mae Tim yn chwarae rôl hanfodol i gynnal iechyd a diogelwch cleifion a staff ac yn helpu i adsefydlu cleifion i adennill eu nerth a’u hannibyniaeth er mwyn iddynt allu dychwelyd adref.
Mae’r gwneud cyfraniad pwysig i ofal sy’n canolbwyntio ar y claf yn yr ysbyty a, gyda’i angerdd i ddysgu, mae’n fodel rôl positif.

Jade Botha
Grŵp Practis Milfeddygol Bodrwnsiwn
Mae Jade Botha ar y ffordd i yrfa fel nyrs filfeddygol yng Ngrŵp Practis Milfeddygol Bodrwnsiwn yng Ngogledd Cymru.
Gweithiodd yn ddiwyd i gwblhau Diploma Cymhorthydd Nyrsio Milfeddygol Lefel 2 gyda graddau uchel, ac mae wedi symud ymlaen erbyn hyn i Ddiploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol.
Disgrifiodd tiwtor Jade hi fel “disglair a dymunol” a chyda meddwl chwilfrydig wrth iddi dreiddio’n ddyfnach am well dealltwriaeth o’r wybodaeth. Mae’n gweithio’n galed mewn lleoliad clinigol i sicrhau bod profiad ymarferol yn cefnogi ei gwybodaeth ddamcaniaethol.
Yn aelod annatod o’r tîm, sy’n gweithio’n galed, symudodd Jade yn ddi-dor i mewn i’r Prentisiaeth Nyrsio Milfeddygol gydag angerdd o’r newydd a dywedir bod ei meddwl ymholgar yn heintus.
Mae Jade yn gosod safonau uchel yn ei gwaith ei hun a’r cleifion sydd yn ei gofal.

Naganarayanan Ramamoorthy
Gwesty’r St George’s Hotel, Llandudno
Cafodd Naganarayanan Ramamoorthy ei ddyrchafu i safle rheolaeth iau yng ngwesty’r St George’s Hotel, Llandudno wedi cwblhau Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio dri mis yn fuan.
Dechreuodd ar ei Brentisiaeth Sylfaen ym mis Medi, 2023, wedi symud i Gymru o Sawdi Arabia ar ei ben ei hun gyda’r nod o gaffael gwybodaeth a phrofiad ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau coginio.
Mae Naganarayanan wedi arddangos ymrwymiad diwyro i’w gymhwyster, gan ddangos lefel gyson uchel o broffesiynoldeb, bob amser yn awyddus i ddysgu ac yn gofyn am aseiniadau ychwanegol yn rheolaidd i herio ei hun.
Er ei fod yn bell oddi wrth ei deulu yn India, a chyfleoedd i ymweld yn brin, mae Naganarayanan wedi creu argraff ar ei brif gogydd a’i gydweithwyr gyda’i ymroddiad i ddysgu, i wneud cynnydd ac i gefnogi eraill.
Disgrifiai ei diwtor ef fel model rôl ar gyfer prentisiaid y dyfodol sy’n dilyn llwybrau tebyg.

Ryan Wood
Ysgol Uwchradd Argoed
Mae Ryan Wood yn ŵr ifanc sydd ar genhadaeth i ddatblygu gyrfa foddhaus a heriol yn y byd digidol.
Yn dilyn ei Lefel A, sicrhaodd swydd gydag Ap-Prentis a arweiniodd i leoliad gwaith yn Ysgol Uwchradd Argoed fel technegydd TGCh fel rhan o Brentisiaeth Sylfaen mewn TGCh, y Wê, Meddalwedd a Telathrebu.
Gwnaeth Ryan argraff ar ei diwtor gyda’i weledigaeth glir o’r llwybr roedd angen iddo ei gymryd i sicrhau y Prentisiaeth Gradd mewn Diogelwch Seibr y mae’n ei wneud erbyn hyn gyda Grŵp Llandrillo Menai mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor.
Yn ystod ei leoliad ysgol, cefnogodd gannoedd o fyfyrwyr ac athrawon, gan atgyfnerthu ei wybodaeth o fodelu data a meddalwedd cronfa ddata yn y broses.
Disgrifiai diwtor Ryan ef fel esiampl gwych o’r talent digidol sydd ar gael yng Ngogledd Cymru ac mae’n wych ei fod yn datblygu ei yrfa yn y rhanbarth.

Sadie Gittins
Clwb Plant Mynydd Helygain
Mae hyder, gwybodaeth a sgiliau Sadie Gittins wedi blodeuo ers iddi gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Chwarae yng Nghlwb Plant Mynydd Helygain.
Gyda chefnogaeth ei thiwtor a’i chyflogwr, mae wedi trawsnewid o fod yn berson ifanc oedd yn ansicr am ei galluoedd academaidd ac ofn methu i fod yn aelod gwerthfawr a hyderus o’r tîm.
Wedi cwblhau ei chymhwyster, sicrhaodd Sadie rôl rhan-amser fel cymhorthydd dysgu yn yr ysgol ar y cyd â’i gwaith fel gweithiwr chwarae gyda’r clwb plant. Cafodd hefyd ei dewis gan ei chyflogwr i fentora’r dysgwr Lefel 2 nesaf.
“Mae Sadie yn dangos ymrwymiad cryf yn gyson i’w rôl ac â dealltwriaeth drylwyr o’i chyfrifoldebau,” meddai Gemma McLeod, uwch oruchwylydd, “Mae ei hymroddiad a’i chynnydd mewn hunan-sicrwydd wedi ei gwneud yn aelod amhrisiadwy o’n tîm.”
Noddwr y Wobr

Sefydlwyd Carelink Homecare Services Ltd yn 1988, ac mae ein hethos o ragoriaeth bob amser yn cael ei adlewyrchu yn ein bwriad i ddarparu’r gofal mwyaf effeithiol posibl i’r unigolion sy'n derbyn ein cymorth a’u teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain, gan amharu cyn lleied â phosibl ar eu trefn arferol, annog annibyniaeth, a'u galluogi i fyw bywyd mor llawn â phosibl.
Mae Carelink yn hynod o falch o'i ymrwymiad i ddatblygu ei staff ac o'i bartneriaeth gref â Grŵp Llandrillo Menai. Mae ein tîm Rheoli Gofal presennol i gyd wedi cael dyrchafiad o'n tîm gofal. Yn ein barn ni mae gofalu yn broffesiwn, a gweithwyr proffesiynol sy'n cyflawni'r gwaith.