Noddwr y Wobr
Mae Ifor Williams Trailers yn fusnes teuluol, a ddechreuodd yng ngogledd Cymru dros 65 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn maent yn cynhyrchu trelars o ansawdd uchel ar bum safle gwahanol, yn cyflogi dros 600 o weithwyr, ac wedi datblygu i fod yn Brif Wneuthurwr Trelars y DU. Ers 1958, mae’r busnes wedi tyfu ac wedi ennill enw da iddo'i hun am ddylunio cynnyrch cadarn a dibynadwy sy'n cael eu darparu i dros hanner cant o ddosbarthwyr yn y DU a rhwydwaith sy’n tyfu ledled y byd. Ers 2016, mae IWT wedi bod yn falch o noddi Clwb Pêl-droed Wrecsam ac ar ben eu digon gyda'u llwyddiant anhygoel.