English

Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025


Cyflogwr y Flwyddyn - Dysgu Seiliedig ar Waith

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Mae'r cyflogwyr yn y categori hwn wedi eu hawgrymu gan ein tîm profiadol sy'n darparu dysgu seiliedig ar waith. Mae’r cwmnïau ar y rhestr fer wedi manteisio ar raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o gynllunio a datblygu eu gweithlu ac wedi dangos ymrwymiad i gefnogi prentisiaid – mewn rhai achosion dros flynyddoedd lawer.

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel arbenigol o Grŵp Llandrillo Menai, rhanddeiliaid a’r sector preifat yng Ngogledd Cymru.

 

 

Joloda Hydraroll Gaerwen

Mae Joloda Hydraroll wastad wedi ymdrechu i roi’r cyfle gorau i ddysgwyr i ffynnu ac i gyflawni’r gorau y gallent. Mae goruchwylwyr a mentoriaid y cwmni wastad wedi bod yn wybodus, yn hawddgar ac yn gefnogol, gyda blynyddoedd o brofiad gwerthfawr yn y diwydiant i’w rannu.

Mae’r fforman Billy Evans yn mynd y tu hwnt i’r gofyn i gefnogi ei brentisiaid, yn hynod ymroddedig i ddatblygiad y myfyrwyr, yn croesawu dysgwyr profiad gwaith yn rheolaidd ac yn meithrin amgylchedd gofalgar.

Mae Billy yn cydweithio’n agos gyda’r grŵp i ddewis prentisiaid o’r carfannau llawn-amser a phrofiad gwaith, ond hefyd yn mynd y tu hwnt i’r gofyn i gefnogi eu llwyddiant. Fel cyflogwr sy’n derbyn prentisiaid o sectorau amrywiol, yn cynnwys peirianneg a weldio, mae brwdfrydedd ac ymroddiad Billy’n ei wneud yn fentor a phartner rhagorol.

Trearddur Bay Hotel

Cefnogodd y gwesty Trearddur Bay Hotel dros 36 Prentisiaeth yn y Gwaith mewn Lletygarwch dros y bedair blynedd diwethaf. Maent yn weithredol yn hyrwyddo dysgu yn y gwaith ac yn deall gwerth prentisiaethau a buddsoddi yn y tîm.

Mae’r Rheolwr, James Harper, yn annog staff hen a newydd i ddatblygu eu hunain yn y gweithle a, ble’n briodol, yn hyrwyddo a chefnogi prentisiaethau i lefel 2 a lefel 3. Gall staff weithio tuag at gymhwyster mewn cadw tŷ, blaen tŷ, bwyty, cegin neu wasanaeth bar.

Mae gan James a’r rheolwyr eraill ddiddordeb mawr yn sut mae’r holl ddysgwyr yn dod yn eu blaen, os oes angen cefnogaeth ychwanegol arnynt gan y gwesty, a wastad yno i helpu mewn unrhyw ffordd y gallent.

Mae’r gwesty’n cefnogi’r grŵp trwy gymryd rhan mewn ymgyrchoedd hyrwyddo, mynychu digwyddiadau gyrfaol, digwyddiadau cyfarfod y cyflogwr a mwy.


Ysgol y Gogarth

Mae Ysgol Y Gogarth yn ymrwymedig i ddatblygu sgiliau a chymwysterau hanfodol i wella gallu’r ysgol i ddarparu addysg a chefnogaeth o ansawdd uchel ar gyfer eu dysgwyr, yn enwedig mewn addysg arbennig, ymrwymiad sy’n cael effaith gadarnhaol ar staff a dysgwyr.

Ers 2024 mae wedi cofrestru 14 aelod staff ar raglenni prentisiaeth gydag Achieve More Training, y rhain yn cynnwys Cefnogi Addysgu a Dysgu, a Dysgu a Datblygiad. Trwy flaenoriaethu datblygiad proffesiynol ei thîm, mae’r ysgol wedi meithrin amgylchedd cefnogol ble mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hysgogi i aros ac i dyfu o fewn y sefydliad.

Mae Ysgol Y Gogarth nawr yn trefnu ail rownd o brentisiaethau ar gyfer staff. Mae’r ymdrech barhaus yma’n arddangos eu hymrwymiad tymor-hir i ddatblygiad proffesiynol parhaus, a’r ymagwedd yma wedi arwain i welliannau ar draws yr ysgol, gan gyfrannu at foddhad staff a llwyddiant dysgwyr.

Ysgol Gwynedd

Mae Ysgol Gwynedd yn Sir Y Fflint yn sefyll allan am ei defnydd strategol o brentisiaethau i gefnogi cynllunio a datblygiad y gweithlu. Mae’r ysgol yn sicrhau bod gan y staff y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn darparu’r amgylchedd a’r profiad gorau ar gyfer eu disgyblion a chymuned yr ysgol.

Gweithiodd y pennaeth Dewi Wyn-Hughes gydag Achieve More Training i gael mynediad i brentisiaethau uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheoli i’r staff i’w cymhwyso o fewn y cyd-destun addysg.

Mae Ysgol Gwynedd nawr wedi ehangu cyfleoedd prentisiaeth ar gyfer staff yr ysgol sy’n cynnwys gwaith chwarae, cefnogi dysgu ac addysgu (cymorthyddion addysgu) a dysgu a datblygiad (aseswyr). Maent hefyd wedi defnyddio’r cynllun prentisiaeth ar y cyd a gynigir drwy Ap-prentis, ac wedi cymryd 2 brentis newydd yn ddiweddar fel staff newydd i ddechrau ar eu gyrfaoedd mewn addysg.

Cyngor Gwynedd

Mae’r arweinydd hyfforddiant ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Delyth Jones, wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai ac yn cydlynu’r holl ddysgu yn y gwaith a phrentisiaethau yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Cyngor Gwynedd wedi gweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai ers dros 15 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r gefnogaeth, ymroddiad a’r ymrwymiad mae hi wedi ei arddangos i brentisiaethau yn rhagorol. Mae Delyth yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu cyflogwyr, awdurdodau lleol a darparwyr hyfforddiant, ac mae’n gweithio gyda rheolwyr unigol y gwasanaethau gofal, gan ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr ble bo’r angen, yn ogystal ag i’r aseswyr i sicrhau bod taith y dysgwr yn effeithiol, yn llwyddiannus, ac yn rhedeg mor llyfn â phosibl.

Mae’r bartneriaeth hyfforddi yma’n hynod bwysig, gan ddarparu gweithwyr medrus ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwynedd, ac mae arbenigedd Delyth wedi galluogi llawer o bobl i ennill cymwysterau ac i symud ymlaen yn y gwaith.

 
 

Noddwr y Wobr

Rehau logo

Mae Rehau wedi sicrhau llwyddiant ar sail datblygu ei weithwyr, yn enwedig ei brentisiaid. Rydym yn cefnogi prentisiaethau gan wybod ein bod yn datblygu'r cyflenwad o unigolion sy'n perfformio ar y lefel uchaf yn ein cwmni ac yn y gymuned leol. Rydym yn rhoi'r cydbwysedd cywir o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau iddyn nhw i'w gwneud yn weithwyr cyflawn a darpar arweinwyr, sy'n gwarantu llwyddiant i ni oll yn y dyfodol.

 

08445 460460 | busnes@gllm.ac.uk