English

Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025


Cyflogwr y Flwyddyn - Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn ôl i'r dudalen gartref

 

Mae cyflogwyr yn y categori Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael eu henwebu gan ein tîm darparu dysgu seiliedig ar waith am eu hymrwymiad i gefnogi prentisiaid i gwblhau eu prentisiaeth yn y Gymraeg neu’n Ddwyieithog ac am annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel arbenigol o Grŵp Llandrillo Menai, rhanddeiliaid a’r sector preifat yng Ngogledd Cymru.

 

 

Cyngor Gwynedd

Mae gan Gyngor Gwynedd ymrwymiad cryf i gefnogi prentisiaid i gwblhau eu cymwysterau yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Nid yn unig mae eu hymroddiad i feithrin amgylchedd dwyieithog yn grymuso prentisiaid, mae hefyd yn cyfoethogi diwylliant y gweithle. Trwy annog y defnydd o’r iaith Gymraeg, mae Gwynedd yn hyrwyddo cynhwysiant ac yn gwella sgiliau’r genhedlaeth nesaf. Maent wedi dangos y ffordd drwy hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chreu cyfleoedd sy’n ein hysgogi ni i gyd i lwyddo.

Cadi Morus-Partry, Uwch Swyddog Talent a Phrentisiaeth a chyn-brentis:

"Mae sicrhau bod prentisiaid yng Ngwynedd yn gallu ennill eu cymwysterau trwy’r Gymraeg yn hanfodol nid yn unig i’r unigolion ond i Gyngor Gwynedd fel sefydliad. Trwy ddarparu hyfforddiant trwy’r Gymraeg, rydym nid yn unig yn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith ond hefyd yn creu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol ar gyfer ein prentisiaid.”

Cwmni Seren Cyf

Mae Aled Williams, rheolwr yn Seren Cyf, wedi dangos ymroddiad diflino’r cwmni i’w cyflogai a phrentisiaethau, gan greu amgylchedd gweithio sy’n annog twf, cynhwysiant, a chreadigrwydd i’w tîm o staff a’r unigolion maent yn eu cefnogi mewn lletygarwch.

Trwy ei arweinyddiaeth a’i ddiwylliant, mae Cwmni Seren Cyf nid yn unig yn rhagori fel busnes sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, mae hefyd yn gyflogwr rhagorol sy’n cefnogi aelodau’r tîm i ddatblygu a thyfu trwy gwblhau prentisiaethau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ond hefyd i Lefel 3 a thu hwnt.

Mae Cwmni Seren Cyf wedi creu gweithle gyda Chymraeg yn greiddiol iddo. Mae Aled yn buddsoddi yn ei dîm a’r unigolion ag anableddau dysgu a gyflogir neu sy’n gwirfoddoli yn y cwmni. Mae’r cwmni hefyd wedi creu diwylliant ble mae’r cyflogai’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a’u grymuso.

 
 

Noddwr y Wobr

Coleg Cymraeg Cenedlaethol logo

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy gydweithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i ddatblygu addysg Gymraeg a dwyieithog.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod uchelgeisiol o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Bydd rôl allweddol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol er mwyn sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd.

Yn ddiweddar, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ymestyn ei gyfrifoldebau i’r sector ôl-16 yn greiddiol i hynny mae’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Mae cylch ein gwaith yn cynnwys cefnogi Colegau i benodi staff dwyieithog i addysg ym meysydd blaenoriaeth Iechyd a Gofal, Gofal Plant a Gwasanaethau Cyhoeddus. Fel rhan o’r gwaith rydym yn comisiynu a datblygu adnoddau, darparu grantiau hybu a hyrwyddo er mwyn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi cynllun llysgenhadon cenedlaethol er mwyn annog a dylanwadu ar ddysgwyr i barhau i astudio elfennau o’u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

08445 460460 | busnes@gllm.ac.uk